TEITL |
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd a’r Awdurdod Safonau Proffesiynol |
DYDDIAD |
16 Mawrth 2020 |
GAN |
Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Cyhoeddus |
Heddiw, rwy’n falch o lansio ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Safonau’r Gymraeg (Rhif 8). Bydd y Rheoliadau yn ceisio gosod Safonau’r Gymraeg ar gyfer y naw corff canlynol:
· Y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol |
· Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol |
· Y Cyngor Meddygol Cyffredinol |
· Y Cyngor Optegol Cyffredinol |
· Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol |
· Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol |
· Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal |
· Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth |
· Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i drefnu ers peth amser ac rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen ag ef yn ôl fel y cynlluniwyd. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol iawn bod yr holl randdeiliaid o dan straen sylweddol a'u bod yn wynebu cyfnod o ansicrwydd oherwydd y sefyllfa bresennol o ran Coronafeirws, neb yn fwy na chyrff y sector iechyd. Byddwn felly yn adolygu'r dyddiad cau maes o law er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael cyfle teg i roi ystyriaeth lawn i'r ymgynghoriad.
Bydd y safonau hyn, fel eraill o’u blaen, yn ei gwneud
yn glir pa wasanaethau Cymraeg gall bobl ddisgwyl eu
derbyn. Maent hefyd yn nodi’n glir beth sydd angen
i’r cyrff wneud o ran y Gymraeg.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn sylwadau gan rhanddeiliaid erbyn y dyddiad cau sydd wedi nodi ar hyn o bryd fel 15 Mehefin, a byddaf yn ystyried yr holl bwyntiau caiff eu codi cyn symud ymlaen i baratoi Rheoliadau terfynol i’r Senedd graffu arnynt.